GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

99 - Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion

Echdynnu (Diwygio ac ati.) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 5 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 29

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 (1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol mewn deddfwriaeth yr UE a ddargedwir (fel y nodir a rhestrir yn Natganiad Llywodraeth Cymru) sy'n darparu rheolau manwl ar ychwanegion bwyd, cyflasynnau, ensymau, toddyddion echdynnu a chymhorthion prosesu, y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel asiantau gwella bwyd.  Mae hyn er mwyn galluogi'r gofynion rheoliadol sy'n berthnasol i'r sylweddau hyn i weithredu'n effeithiol fel deddfwriaeth ddomestig ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

 

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu cyfraith yr UE a ddargedwir a ganlyn – Rheoliadau (UE) Rhif 257/2010 sy'n darparu ar gyfer sefydlu rhaglen barhaus ar gyfer ail-werthuso ychwanegion bwyd cymeradwy cyn 2009.

 

Ymhellach, mae'r Rheoliadau hyn yn cryfhau pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru drwy drosglwyddo swyddogaethau'r Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys pwerau gwneud rheoliadau o dan ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir i Weinidogion Cymru er mwyn:

  • penderfynu a ddylid cymeradwyo ceisiadau am ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd (gan gynnwys cyflasynnau mwg) i'w gosod ar y farchnad (gan gynnwys ail-awdurdodi ac addasiadau) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag i ragnodi mesurau gweithredu ar gyfer eu hawdurdodi. 
  • diwygio gofynion labelu ar gyfer y sylweddau hyn.
  • gwneud rheoliadau i ddiwygio elfennau nad ydynt yn hanfodol o gyfraith yr UE, er enghraifft ystyried datblygiadau gwyddonol newydd.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 6 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.